A sunset off the coast with the sea

Amdanom Ni

A bridge over a canal with trees

Beth yw #ParchwchYDŵr?

#ParchwchYDŵr yw’r ymgyrch genedlaethol ar gyfer aelodau’r Fforwm Diogelwch Dŵr Cenedlaethol (FfDDC). Fe’i cynhelir drwy’r flwyddyn, ond gyda ffocws ar fisoedd prysur y gwanwyn a’r haf, yn cyfannu ac amlygu nifer o ymgyrchoedd diogelwch yn y dŵr cenedlaethol. Ei fwriad yw darparu cyngor achub bywyd i’r rhai sydd mewn perygl o fewn dŵr, ar y dŵr neu gerllaw iddo.

Darganfod Mwy
A pier and a beach by the sea

Beth yw FfDDC?

Sefydlwyd y FfDDC yn 2004 yn dilyn adolygiad gan y Llywodraeth i ddiogelwch yn y dŵr. Yn casglu nifer o sefydliadau cenedlaethol ynghyd gyda’r uchelgais o greu ‘siop un stop’ ar gyfer atal boddi a diogelwch yn y dŵr o fewn y DG.

Canfod Mwy

PAM OES ANGEN ARNOM

Mae nifer y marwolaethau o achos boddi yn y DG dal yn annerbyniol o uchel. Ac nid dim ond yr arfordir yn unig – mae 62% o achosion o foddi yn digwydd yn fewndirol mewn afonydd, camlesi, llynoedd, cronfeydd dŵr a chwareli. O’r marwolaethau hyn, doedd nifer o’r dioddefwyr erioed wedi bwriadu mynd i’r dŵr, ac yn arswydus, mae 83% ohonynt yn wrywaidd.

Mae dyfroedd agored mewndirol, megis afonydd, camlesi, llynnoedd, cronfeydd dŵr a chwareli yn parhau i fod y lleoliadau blaenllaw gyda 62 y cant o farwolaethau (N=168)

Mae gwrywod yn parhau i orgynrychioli gydag 83 y cant o farwolaethau (N=230)

Nid oedd gan 40 y cant o bobl unrhyw fwriad i fynd i mewn i’r dŵr, megis y rhai oedd yn cerdded, gydag achosion yn cynnwys llithro, baglu a chwympo, cael eu hynysu gan y llanw, neu eu hysgubo i ffwrdd gan donnau (N=107)

YMGYRCHOEDD

Mae ein hymgyrchoedd yn annog pobl i barchu’r dŵr a’u haddysgu sut i fwynhau’r dŵr yn ddiogel, ynghyd â beth i’w wneud mewn argyfwng. Ry’n ni’n gwybod fod ymgyrchoedd ein haelodau wedi helpu achub bywydau yn y gorffennol, ac wrth weithio’n agosach gyda’n gilydd, ry’n ni’n gobeithio achub llawer mwy yn y dyfodol.

Canfod Mwy

CYSYLLTWCH Â NI

Am ragor o wybodaeth, cewch gysylltu â ni wrth lenwi’r ffurflen ar y ddolen isod