
OS BYDD RHYWUN MEWN TRAFFERTH, GALWCH 999
Pan fydd rhywun yn cael trafferth mewn dŵr, gall yr ysfa i neidio i mewn a helpu fod yn llethol, ond fe all arwain yn gyflym at drasiedi heb yr hyfforddiant a’r offer cywir. Mae’r dŵr yn anrhagweladwy a gall achub un dyfu’n sydyn i fod yn achos o chwilio am ddau. Arhoswch ar y lan a gwnewch yr alwad gywir – GALWCH 999.
PA WASANAETH BRYS?
Bydd y gwasanaeth brys sydd ei angen arnoch yn amrywio gan ddibynnu a ydych chi ar ymyl yr arfordir neu mewn lleoliad mewndirol.
Hofran neu dapio ar y delweddau isod i ddarganfod pa wasanaeth i ofyn amdano mewn argyfwng.

Traethau

Arfordirol

Ar y Môr

Llynnoedd a Llychau

Camlesi

Cronfeydd Dŵr

Chwareli

Afonydd
*Byddwch yn ymwybodol bod rhai lleoliadau mewndirol yn gweithredu’n wahanol, gan gynnwys yr Afon Tafwys yn Llundain sy’n cael ei chydgysylltu gan Wylwyr y Glannau EM hyd at Teddington Lock, yn ogystal â nifer fach o Lychau yn yr Alban ac Iwerddon. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, gwiriwch yr arwyddion lleol ond peidiwch ag oedi cyn ffonio 999 ar unwaith achos bydd y gweithredwr yn helpu anfon y gwasanaeth brys priodol.